Yn helpu iechyd emosiynol a meddyliol plant a theuluoedd
Rhif Cwmni: 7538792
Croeso
Amdanom Ni
Mae’r Windfall Centre yn gorff elusennol. Rydym wedi ymsefydlu yn Llandrindod yn y canolbarth, gan wasanaethu Cwm Tawe a’r gorllewin, y Bont-faen, Pen-y-Bont. Mae gan ein tîm o therapyddion brofiad ac arbenigedd ym maes iechyd a datblygiad meddyliol plant a phobl ifanc, gan gynnwys Therapi Chwarae, Seicotherapi Celf a gwaith iachaol â theuluoedd.
Rydym yn cynnig cefnogaeth ac asesu ymgynghorol, hefyd, ar gyfer plant a theuluoedd sy’n wynebu caledi ac i’r gweithwyr proffesiynol hynny sy’n gweithio er eu budd yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyngor a hyfforddiant unswydd ar gyfer gwasanaethau preswyl, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau GIG a chyrff gwirfoddol.
Mae tîm Clinigol Windfall yn darparu cymorth iachaol, hefyd, ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n wynebu amrywiaeth eang o heriau, a all gynnwys ymddygiadau sy’n peri pryder, trafferthion ymlyniaeth a thrawma datblygiadol. Trwy waith pedwar o Therapyddion Cymdeithas Chwarae Prydain (BAPT), tri Therapydd Ffilial, dau Seicotherapydd Plant a’r Glasoed a Therapydd Celf, rydym yn gallu cynnig ystod o raglenni therapiwtig sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddiwallu anghenion unigol plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Dewisodd bawb yn y Windfall Centre eu galwedigaeth ar sail ymrwymiad sylfaenol i wneud bywydau plant a theuluoedd y gorau y gallant fod. Gallwn gynnig cyngor a chyfarwyddyd i ofalwyr, gweithwyr proffesiynol, plant a phobl ifanc. Rydym yn cynnig cyngor a chymorth iachaol i rieni sy’n disgwyl plant, hefyd, ac i rieni mabwysiadol trwy raglenni cyn ac wedi mabwysiadu.
Ymchwiliwch i’r wybodaeth ar ein gwefan a galwch ni, neu gyrrwch e-bost atom. Ceisiwn wastad fod o gymorth.