![Windfall Centre Logo.png](https://static.wixstatic.com/media/6c2bb3_7a492ef238e94734b0dc7cee1ba2192e~mv2.png/v1/fill/w_118,h_116,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Windfall%20Centre%20Logo.png)
Yn helpu iechyd emosiynol a meddyliol plant a theuluoedd
Rhif Cwmni: 7538792
![Fundraising.jpg](https://static.wixstatic.com/media/6c2bb3_8abb9f1817e74ba3b7882fac764b091b~mv2.jpg/v1/fill/w_977,h_651,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/6c2bb3_8abb9f1817e74ba3b7882fac764b091b~mv2.jpg)
Codi Arian
Mae ar blant a theuluoedd angen eich cymorth!
Gwyddom na fydd pawb yn medru fforddio cost therapi ac y mae’n bwysig gennym ei fod ar gael i bawb. Rydym wrthi’n ymgeisio ac arian a chymorthdaliadau a fydd yn cyfrannu at gost sesiynau ar gyfer y rhai y mae arnynt ei angen. Parhewch i gysylltu â ni, os gwelwch yn dda, os ydych yn pryderu am y gost. Gallwn drafod yr hyn y gallwch ei fforddio a’ch rhoi chi ar restr aros hyd bo lle noddedig ar gael.
Os gallwch roi er mwyn cefnogi ein gwaith, rhoddwch isod, os gwelwch yn dda,, lle gallwch yrru rhodd untro, sefydlu debyd uniongyrchol misol a chodi arian ar ein cyfer, hefyd.
Wyddoch chi y gallech chi fod yn codi rhoddion ariannol rhad ac am ddim ar gyfer y Windfall Centre, pryd bynnag y prynwch unrhyw beth ar lein, o’ch neges wythnosol i’ch gwyliau blynyddol, ag “easyfundraising”?
Mae rhagor na 6,000 siop a safle yn aelodau ac yn barod i roi rhodd, gan gynnwys eBay, Argos, John Lewis, ASOS, Booking.com a M&S – ac ni fydd rhaid i chi dalu ceiniog yn rhagor i’n helpu ni i godi arian.
Y cwbl y mae angen i chi’i wneud yw:
1. Mynd i https://www.easyfundraising.org.uk/causes/thewindfallcentre/?utm_campaign=raise-more ac ymuno am ddim.
2. Pob tro y prynwch ar-lein, ewch i easyfundraising yn gyntaf er mwyn canfod y safle a ddymunwch, a dechrau prynu.
3. Wedi i chi adael, bydd y gwerthwr yn rhoi arian i’r Windfall Centre heb i chi dalu dim rhagor o gwbl!
Nid oes unrhyw faglau neu gostau cudd, a bydd y Windfall Centre yn wirioneddol ddiolchgar am eich rhoddion.
Diolch i chi am eich cefnogaeth.
Ni fyddai modd i’r gwaith a wnawn ddigwydd oni bai am y noddwyr rhagorol hyn sy’n ein help ni i helpu plant a theuluoedd gael cymorth iachaol:
![Screenshot 2022-05-09 at 13.28.51.png](https://static.wixstatic.com/media/6c2bb3_d3034c41eac246bfa69c85492baa5372~mv2.png/v1/fill/w_275,h_125,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Screenshot%202022-05-09%20at%2013_28_51.png)
![Green Man Trust.png](https://static.wixstatic.com/media/27362d_52cc47293fd34216bb21eb9d8bcc4e3f~mv2.png/v1/fill/w_104,h_104,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Green%20Man%20Trust.png)
![](https://static.wixstatic.com/media/27362d_1998448dca004ccfb3c7b26f771c6bce~mv2.png/v1/fill/w_254,h_166,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/27362d_1998448dca004ccfb3c7b26f771c6bce~mv2.png)
![](https://static.wixstatic.com/media/27362d_b60793ce8f3046aeb5b430d3ba321833~mv2.jpg/v1/fill/w_372,h_155,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/27362d_b60793ce8f3046aeb5b430d3ba321833~mv2.jpg)
![](https://static.wixstatic.com/media/27362d_61eb8f46750545cb8c9b34326bea401d~mv2.png/v1/fill/w_233,h_125,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/27362d_61eb8f46750545cb8c9b34326bea401d~mv2.png)
![Screenshot 2022-05-09 at 13.29.26.png](https://static.wixstatic.com/media/6c2bb3_553eedf1ef37404eb5f7091d39e06a22~mv2.png/v1/fill/w_295,h_113,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Screenshot%202022-05-09%20at%2013_29_26.png)
![Screenshot 2022-05-09 at 13.29.19.png](https://static.wixstatic.com/media/6c2bb3_48f665b7f8f643d1af1b548b0dd5e503~mv2.png/v1/fill/w_342,h_146,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Screenshot%202022-05-09%20at%2013_29_19.png)
![Screenshot 2022-05-09 at 13.29.08.png](https://static.wixstatic.com/media/6c2bb3_1cef8a9199014df7b710c4540791b8c0~mv2.png/v1/fill/w_345,h_137,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Screenshot%202022-05-09%20at%2013_29_08.png)
![EGF_logo_CMYK (002).jpg](https://static.wixstatic.com/media/27362d_ee02b839c6cf4a72a7bda32ec665b673~mv2.jpg/v1/fill/w_386,h_78,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/EGF_logo_CMYK%20(002).jpg)
![Screenshot 2022-05-09 at 13.29.55.png](https://static.wixstatic.com/media/6c2bb3_0ba0997d2d844640a86fb8ed5f6f41ef~mv2.png/v1/fill/w_177,h_126,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Screenshot%202022-05-09%20at%2013_29_55.png)
![Screenshot 2022-05-09 at 13.29.42.png](https://static.wixstatic.com/media/6c2bb3_143ae3a57aa844cb96a661eb85d8bfb1~mv2.png/v1/fill/w_440,h_112,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Screenshot%202022-05-09%20at%2013_29_42.png)