Yn helpu iechyd emosiynol a meddyliol plant a theuluoedd
Rhif Cwmni: 7538792
Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth
Hyfforddiant
Ers ei sefydlu gyntaf yn 2005 bu’r Windfall Centre yn hyfforddi llawer ac amryw sefydliadau ac asiantaethau ledled Cymru a’r DU. Ag arbenigedd penodol a diddordeb mewn ymlyniad, iechyd meddwl plant bach, effaith trawma, colled ac awtistiaeth yn ein tîm o therapyddion chwarae, seicotherapyddion plant a seicolegwyr, rydym yn hapus i gynnig hyfforddiant at ofynion unigol o fewn y pynciau hyn. Cysylltwch â’r brif swyddfa, os gwelwch yn dda, am adborth a geirdaon o hyfforddiant yn y gorffennol, ac er mwyn trafod unrhyw anghenion hyfforddiant sydd gennych, a byddai’n dda gennym ymchwilio i hyn â chi.
E-bost: info@windfallcentre.co.uk
Ffôn: 01597 829346
Excellent training and content. Facilitated at a comfortable pace. Group interaction and useful feedback. Interactive and a combination of PP, video links, and practical elements.
I found the course interesting and all members of the webinar very friendly. The information and can't wait to try the ideas with the children.
Very good content - supported by excellent research and clearly presented ... good notes
The course was very well prepared and delivered - the trainer was amazing
Really interesting training and really engaging delivery. Definitely made me reflect on my interactions with children / young people in schools in the past and has helped me to think of how I engage with pupils going forward.
Ymgynghoriaeth
Mae’n dda gan y Windfall Centre fedru cynnig ymgynghoriaeth ac arweiniad ar gyfer awdurdodau lleol, gwasanaethau preswyl a chymorth, ysgolion a theuluoedd ag anghenion penodol. Mae peth o’r gwaith a wnaed gennym eisoes yn cynnwys asesu perthnasau ymlyniad ar gyfer plant sy’n datblygu’n nodweddiadol ac anabl fel ei gilydd, yn enwedig mewn perthynas â phlant y gofelir amdanynt a lleoliadau’r dyfodol.
Amcan creiddiol gwaith y Windfall Centre yw sicrhau bod gan bob plentyn y cymorth y mae arno ei angen. Byddwn wastad yn rhoi’r flaenoriaeth i anghenion y plant a’r teuluoedd y gweithiwn â hwy ac yr ydym yn hapus i weithio’n hyblyg er mwyn galluogi hyn. Felly hyd yn oed os nad oes ond arnoch angen siarad ynghylch pryder, byddai’n dda gennym fedru helpu.