top of page
Art Psychotherapy Page.jpg

Seicotherapi
Celf

“Os creaf o’r galon, mae bron popeth yn gweithio: os o’r pen, prin ddim.” – Marc Chagall.

Mae seicotherapi celf yn galluogi dulliau geiriol ac aneiriol o gyfathrebu. Gall creu delweddau helpu mynegi meddyliau a theimladau, gan for ffurf ddiriaethol i bethau y gall eu mynegi’n eiriol fod yn anodd.

Mae’r therapydd yn helpu’r person ifanc yn eu myfyrdodau eu hunain ynghylch eu gwaith celf. Ni fernir gallu artistaidd na thechnegol, ac ni cheisir dehongli ystyr y darlun.

Mae a wnelo’r seicotherapi celf ag annog y person ifanc i ddefnyddio celf mewn modd sy’n caniatáu hunanfynegiant a thwf personol. Bydd fframwaith man diogel a rheoledig, a chysylltiad perthynas ymddiriedol, ddatblygol â’r therapydd, yn galluogi’r person ifanc i ymwneud â’i greadigrwydd a myfyrio ar ei brofiadau mewn modd adeiladol.

Nid oes angen i unigolyn fod ag unrhyw brofiad blaenorol o ddefnyddio deunyddiau celf.

Gellir myfyrio ar y pryd ar ddelweddau a wneir yn ystod sesiynau, a gellir ailymweld â hwy’n ddiweddarach.

Defnyddir seicotherapi celf mewn amryw sefyllfaoedd ar gyfer oedolion a phlant: mewn ysbytai, darpariaeth gofal preswyl a dyddiol, y sector preifat, gwasanaethau fforensig a charchar, addysg, elusennau, gwasanaethau cymdeithasol, a gwasanaethau iechyd meddwl plant, pobl ifanc ac oedolion.

 

Gellir ymchwilio rhagor i broblemau ynghylch cyfyng-gyngor, diffyg hyder a hunan-barch, trawma, colled neu alar, ymdeimlad o hunaniaeth, bwlio, pryder neu straen trwy wneud delweddau lle mae mynegiant geiriol ac emosiynol yn teimlo’n rhy anodd.

What I liked about Art Therapy was making clay models

We are very grateful for an extremely beneficial Service.

 

Thank you!

‘Thank you for helping me.’ 

Mynediad at seicotherapi celf

Gellir darparu seicotherapi celf mewn sesiynau unigolyddol a grŵp. Yn y Windfall Centre, mae seicotherapi celf unigolyddol ar gael ar ddyddiau Mawrth ac Iau ar hyn o bryd. Ymgynghorir trwy drafod ag unigolion, eu teuluoedd, eu gofalwyr, a sefydliadau sydd, efallai, â rhan yn narparu gofal. Cynigir sesiynau wythnosol, gan ddarparu amgylchedd diogel, cwmpasol a chyson ym mha un y gellir meddwl ac ymchwilio.

Cyfrinachedd

Erys cynnwys sesiynau seicotherapi celf yn gyfrinachol onid oes gan y therapydd bryderon ynghylch bygythiad i’r unigolyn hwn neu i eraill.  Yn yr achos hwnnw, ac wedi trafod â’r unigolyn, cynhwysir aelod diogelol addas o’r tîm amlddisgyblaethol. Storir gwaith celf yn ddiogel a gellir ailymweld ag ef a myfyrio yn ei gylch gydol y therapi.

Egwyddorion Ymarfer Proffesiynol

Mae gan seicotherapyddion celf gymhwyster ôl-raddedig i ymarfer, ac y maent wedi’u cofrestru gan y wladwriaeth â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Maent wedi’u rhwymo gan y HCPC a’r BAAT (Cymdeithas Brydeinig y Therapyddion Celf) i lynu wrth egwyddorion a chodau ymarfer proffesiynol.

Ceir rhagor o wybodaeth am seicotherapi celf gan BAAT yn info@baat.org

bottom of page