top of page
hands-5618240_1920.jpg

Cwestiynau Poblogaidd

hands-5618240_1920.jpg
  • Faint yw pris therapi?
    Mae ffioedd hyd at £120 y sesiwn ond gwyddom na fydd pawb yn gallu fforddio cost Therapi ac mae'n bwysig i ni ei fod yn hygyrch i bawb. Rydym wrthi’n ymgeisio am arian a chymhorthdal a fydd yn cyfrannu at gost sesiynau ar gyfer y rhai sydd â’i angen. Parhewch i ymholi â ni, os gwelwch yn dda, os ydych yn pryderu am y gost. Gallwn drafod yr hyn y gallwch ei fforddio a’ch rhoi chi ar restr aros hyd fo lle noddedig ar gael.
  • Pwy all gyfeirio at Windfall Centre?
    Rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gan gynnwys ysgolion, meddygon teulu a’r gwasanaethau cymdeithasol. Gwelwch ein tudalen gyfeirio am ragor o wybodaeth.
  • Beth yw’r broses o gyfeirio at therapi?
    Pan gyfeiri, bydd y tîm uwch-ymarferwyr yn dynodi therapydd ac yn cysylltu er mwyn trefnu apwyntiad derbyn. Mae hyn yn gyfle i oedolion drafod y pryderon a wnaed yn y cyfeiriad, ar Zoom fel arfer. Gall hyn gynnwys rhieni/gofalwyr/gweithwyr cymdeithasol/gweithwyr cymorth teuluoedd. Ysgrifennir cynnig gyda chostau llaw, i’w ystyried gan rieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. O gytuno’r cynnig, bydd y therapydd yn cysylltu i drefnu ymweliad â’r teulu neu sesiwn gyntaf. Efallai bydd rhestr aros i ddechrau’r therapi ar adegau prysur.
  • Disgwyliadau therapi ar gyfer plant a theuluoedd
    Gall therapi fod o gymorth i blant ddeall teimladau dryslyd a deall digwyddiadau sy’n peri pryder. Mae’r therapydd wedi’i hyfforddi i ddarparu amgylchedd diogel, derbyniadol a chwareus, ac yn hytrach na bod disgwyl iddynt siarad am yr hyn sy’n eu poeni, gall plant ddefnyddio chwarae a chelfyddydau mynegol i gyfathrebu yn eu ffordd eu hunain yn eu hamser eu hunain. Yn gyffredinol, mae therapi’n digwydd yn rheolaidd pob wythnos ar yr un amser ac yn yr un ystafell. Mae plant yn teimlo’n ddiogelach ac yn cael gwell hwyl ar therapi pan fo ganddynt sesiynau therapi cyson a rheolaidd. Mae’r berthynas sy’n datblygu dros amser rhwng eich plentyn, eich therapydd a chi o gymorth i’ch plentyn deimlo’n ddiogel, yn gyffyrddus, ac wedi’i ddeall. Mae’r math hwn o amgylchedd ymddiriedol yn ei gwneud yn haws i’r plentyn fynegi ei feddyliau a’i deimladau, a chael y budd mwyaf o’r therapi. Mae mor bwysig fod eich plentyn yn gwybod eich bod chi’n helpu’r broses, gan gynnwys parchu hawl y plentyn i benderfynu’r hyn y dymuna ei rannu â chi am ei sesiynau therapi. Cedwir gwybodaeth yr ydych yn ei rannu â’r therapydd ynglŷn â’ch plentyn a’ch teulu yn gyfrinachol, fel arfer. Gallai therapydd rannu’r wybodaeth â chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys ei oruchwyliwr clinigol, er budd y plentyn, a cheisiwn eich caniatâd ar gyfer hyn cyn dechrau’r therapi. Terfynau Cyfrinachedd: Rhaid i therapydd rannu gwybodaeth â gweithwyr proffesiynol eraill os yw’n pryderu bod plentyn yn cael ei niweidio, neu yn ei niweidio’i hun neu eraill. Bydd yn siarad â chi a, hyn yn gyntaf, fel arfer. Byth therapydd eich plentyn yn cyfarfod â chi o fewn ysbeidiau rheolaidd er mwyn trafod cynnydd mewn sesiynau therapi ac unrhyw newidiadau neu ddatblygiadau yr ydych wedi bod yn dyst iddynt neu wedi’u profi gartref, o bosibl. Ni fydd y therapydd, fodd bynnag, yn datgelu manylion penodol ynghylch sut y chwaraeodd eich plentyn yn y sesiynau therapi chwarae. Mae hyn yn parchu hawl eich plentyn i gyfrinachedd ac yn cynnal teimladau eich plentyn o ymddiriedaeth a diogelwch â’r therapydd. Erys cyfrinachedd yr ystafell chwarae yn agwedd bwysig ar therapi plant. Nid ydym yn cynhyrchu adroddiadau llys yma yn y Windfall Centre, onid ar gais uniongyrchol y llysoedd. Yn yr achos hwnnw, unig gynnwys yr adroddiad yw y bu’r plentyn yn derbyn therapi, pa mor gyson y bu’n dod am therapi, ac un ai dyddiad darfod neu argymhellion ar gyfer ymyraethau ychwanegol. Gweler ein taflen waith ‘dod â’ch plentyn i therapi’, a roddwn i rieni cyn dechrau rhaglen driniaethol:
  • Pa fathau o therapi sydd ar gael?
    Mae’r Windfall Centre yn cynnig therapi chwarae, seicotherapi celf, therapi mabol.
  • Oes yna gymorth i rieni ynghyd â therapi plant?
    Oes, mae adolygiadau ar gyfer rhieni a gofalwyr gydol y broses iachaol. Mae ymyrraeth therapi mabol, sy’n cynnwys gofalwyr yn y cynnydd iachaol.
  • Hoffwn sgwrsio â rhywun yn unig er mwyn gweld a yw cyfeiriad yn addas.
    Galwch 01597 829346 neu cysylltwch â ni trwy ein tudalen ymholiadau. Onid ydym ni’n addas ar gyfer eich amgylchiadau, gallwn gyfeirio at asiantaethau eraill.
  • Ydych chi’n darparu therapi Cymraeg?
    Mae gennym un therapydd chwarae a all gynnal sesiynau Cymraeg yn Llandrindod.
bottom of page