Yn helpu iechyd emosiynol a meddyliol plant a theuluoedd
Rhif Cwmni: 7538792
Therapi Chwarae
Mae tîm y Windfall Centre o Therapyddion Chwarae BAPT yn darparu rhaglenni tymor byr a hir o Therapi Chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc.
Ceisiwn gynnwys gofalwyr ac aelodau eraill y teulu mewn arddull cynhwysol a hyblyg sy’n cydnabod bod pob plentyn yn profi ei fyd trwy rwydwaith cymhleth o berthnasau.
O gofio y bydd un plentyn o bob deg yng Nghymru’n profi trafferth iechyd meddwl, a bod hanner holl broblemau iechyd meddwl y DU yn dechrau erbyn 14 oed (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 2018), ynghyd ag effaith gyfunol Covid 19 ar iechyd meddwl yng Nghymru, mae’n dda gennym fedru cynnig y model triniaeth effeithiol a chadarn hwn ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn y canolbarth a’r gorllewin.
Mae therapi chwarae yn ddull profedig ac effeithiol o helpu cleientiaid o bob oed sy’n wynebu amrywiaeth anferth o heriau a chaledi. Gallai’r rhain gynnwys camdriniaeth, trawma, galar a cholled, trais yn y cartref a chwalfa deuluol.
Mae therapi chwarae yn effeithiol oherwydd effeithiau cyfun grymoedd cyfathrebol ac iachaol chwarae, a’r derbyn a’r cwmpasu sy’n rhan hanfodol o berthynas y cleient â’r therapydd chwarae. Y plentyn sy’n arwain y chwarae a’r therapydd chwarae yn dilyn, gan ddarparu diogelwch a chwmpasu, gan reoleiddio a helpu hunanfynegiant y plentyn trwy arwyddion a throsiadau chwarae. Weithiau mae arddull mwy cyfundrefnol o gymorth i’r plentyn ymchwilio i bryderon penodol, neu’n darparu man diogel ar gyfer symud ymlaen os yw chwarae’r plentyn wedi mynd i rigol.
Mae plant yn mynegi eu teimladau ac yn cyfathrebu eu profiadau trwy chwarae. Gallant geisio gweithio trwy drawma a rhoi cynnig ar wahanol syniadau ac atebion ar gyfer eu penblethau, a cheisio ennill meistrolaeth a hyder trwy eu chwarae. Mae plant yn gwneud hyn yn naturiol fel rhan o’u taith ddatblygiadol, ond pan fo amgylchiadau’n drech nag adnoddau’r plentyn, gan beri iddo deimlo’n bryderus ac anniogel, ni allant ei ‘chwarae mas’ heb gymorth a galluoedd therapydd chwarae cydymdeimladol a medrus sy’n deall anghenion datblygiadol ac iechyd meddwl y plentyn. Mae’r berthynas iachaol ddofn yn hyrwyddo newid er gwell yn y plentyn trwy ei helpu i’w gynorthwyo ei hun, tra yw’n ehangu ei alluedd a’i allu i wrthsefyll.
Mae ein tîm o therapyddion chwarae BAPT yn gweithio’n agos â rhieni a gofalwyr, a chynigwn ymyraethau wedi’u canolbwyntio ar ymlyniad sy’n rhoi sylw i’r berthynas rhwng rhiant a phlentyn. Gweler yr adran wybodaeth: Therapi Mabol a Gweithio â Theuluoedd.
Gweithiwn yn agos â gweithwyr proffesiynol, hefyd, gan gynnig cyngor a chymorth i weithwyr ysgol, timau gwaith cymdeithasol ac eraill sy’n gweithio ar gyfer ac ar ran plant ym mherygl. Hyfforddwyd ein tîm i weithio ag anghenion datblygiadol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae ein gwaith wedi’i seilio ar hyfforddiant dwys, graddau mawrion o therapi personol tan oruchwyliaeth glinigol a datblygu proffesiynol parhaus trwyadl.
Therapi Chwarae Dyadig
Mae Therapi Chwarae Dyadig yn defnyddio’r un ethos ac arfer â Therapi Chwarae anghyfarwyddol mewn sesiynau a gynhelir gyda Therapydd Chwarae cymwys a’r rhiant neu ofalwr sy’n bresennol ac yn chwarae gyda’r plentyn. Mae’r rhiant neu ofalwr yn barod ac yn cael ei gefnogi i ymateb yn therapiwtig i’r plentyn yn yr ystafell chwarae, gyda’r Therapydd Chwarae yn cynnal y broses ac yn cynorthwyo pan fo angen. Mae sesiynau ar wahân rhwng y Therapydd Chwarae a'r rhiant neu ofalwr cyn ac yna ochr yn ochr â'r rhai gyda'r plentyn. Bydd cynnwys y plentyn a'r sawl sy'n rhoi gofal yn y broses therapi yn aml yn sicrhau cynnydd cyflym a pharhaol.
E has benefitted enormously. She had a safe space that was hers alone to express herself and she felt so comfortable. In an often troubled house it has been a huge deal to her emotional wellbeing.
(What I liked about Play therapy was)- Talking about my feelings
The professionals who we’ve worked with have been well-informed and supportive
I do not know where me and my children would be without The Windfall. I mean that totally. The advice, support and guidance have been invaluable.
We appreciated the therapists time and input.
O is brighter. She is more up for trying potentially challenging things e.g going out to meet friends, eating veg… She is calmer and better able to control her emotions
We appreciated all the insights and having all our questions answered
Ardystiadau
-
Mae aelodau tîm Therapi Chwarae’r Windfall Centre yn aelodau ardystiedig o Gymdeithas Brydeinig y Therapyddion Chwarae (BAPT) sydd yn gorff a gydnabuwyd ac a ardystiwyd gan y Gymdeithas Safonau Proffesiynol (PSA). Mae Therapyddion Chwarae BAPT wedi’u hyfforddi at raddfa Meistr, ac yn gorfod cadw cofnodion blynyddol o oruchwyliaeth glinigol a datblygiad proffesiynol.