top of page
Image by Aleksandr Ledogorov

Cynghori

Gall glaslencyndod a chyrraedd llawn dwf fod yn adegau heriol a dryslyd, a gallai pobl ifanc gael trafferth â phroblemau ac amgylchiadau y maent yn eu hwynebu, neu wedi’u hwynebu yn y gorffennol. Gallai’r teimladau hyn deimlo’n llethol, ac effeithio nid yn unig ar eu hiechyd a’u lles emosiynol eu hunain, ond ar y sawl sy’n gofalu amdanynt, hefyd.

Mae cynghori yn Windfall wedi’i ganoli ar yr unigolyn, a’i oleuo gan drawma ac ymlyniad. Mae’r arddull cynghori’n tynnu ar ymchwil, yn enwedig ymchwil niwro-wyddonol presennol i ddatblygiad yr ymennydd arddegol/llawn dwf cynnar. Mae hyfforddiant penodol a phrofiad cynghori plant a phobl ifanc yn caniatáu i’r cynghorwr ddefnyddio amryw fedrau, strategaethau ac adnoddau gwyddonol er mwyn sicrhau bod pob person ifanc yn derbyn gwasanaeth a luniwyd yn benodol ar ei gyfer er diwallu pob angen unigol.

Counselling- in page.jpg

Mae cynghori’n darparu gofod diogel ple gwrandewir yn astud ar lanciau, llancesau a phobl ifanc, a lle’u galluogir i fynegi eu hunain, gan ymchwilio a rhoi trefn ar eu profiadau heb eu beirniadu neu fod rhywun yn dweud wrthynt beth i’w wneud. Mae cynghori’n gyfrinachol onid oes gan y cynghorwr bryderon penodol ynghylch diogelwch y plentyn neu’r person ifanc. Os felly, penderfynir ynghylch unrhyw weithredu diogelu y gall y bydd ei angen.

Mae cynghori yn Windfall ar gael i rai iau na 25 oed.

‘There has been a complete change, everything’s going well at home and at school.  It’s been amazing and I’m so grateful. If we hadn’t had this I don’t know where we would be.’

‘Obviously, it’s got a lot better.  Any back and fro between mum and me has eased off. It’s a lot better now’

bottom of page