Yn helpu iechyd emosiynol a meddyliol plant a theuluoedd
Rhif Cwmni: 7538792
Gweithio â Theuluoedd
“Nid digon caru’r plant, rhaid iddynt fod yn ymwybodol y’u cerir.”
– Sant Ioan Bosco.
Therapy Mabol
Mae therapi mabol yn arddull therapi teuluol unigryw a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol a hyfforddwyd mewn therapi chwarae’n gyntaf. Mae’n dra gwahanol i fodelau therapi teuluol eraill yn mai’r amcan yw hyfforddi a galluogi rhieni i fod yn gyfryngwyr newid ac iachau llesol, heb fawr ddim gwaith uniongyrchol gan y therapydd â na’r plentyn neu’r plant.
Mewn sesiynau therapi mabol dysgir i rieni egwyddorion a medrau therapi chwarae sylfaenol sy’n canolbwyntion ar y plentyn, fel gwrando ystyrlon, cydnabod teimladau’r plentyn ac ymateb iddynt, gosod cyfyngiadau iachaol, cynyddu hunan-barch plentyn a chynnal gweithgareddau trefnus o fewn cyfarfodydd wythnosol â’r therapydd mabol. Mae rhieni’n dysgu sut i fod mewn cytgord â meddyliau, bwriadau a theimladau eu plentyn, sy’n gwella’r berthynas gysylltiol rhwng gofalwr a phlentyn.
Fel mewn therapi chwarae sy’n canolbwyntio ar y plentyn, nid yw therapi mabol yn ymwneud â datrys problemau penodol, ac nid yw’n ateb sydyn. Yn hytrach, mae’n amcanu at ganlyniadau a gynhelir dros amser ac yn parhau er gwaethaf straen wrth iddo weithio i gryfhau clymau creiddiol teulu, nid newid ymddygiadau penodol. Mae o fudd neilltuol wrth ailadeiladu perthnasau cryfion lle’u tanseiliwyd gan galedi. Mae therapi mabol yn arbennig o effeithiol yn achosion o fabwysiadu a gofal meithrin er mwyn sicrhau ffurfio clymau cryfion rhwng unigolion. Mae’n arddull hyblyg y gellir ei addasu’n rhwydd at anghenion plant a theuluoedd. Mae’r therapydd yn gweithio’n uniongyrchol â’r rhieni neu ofalwyr gydol y rhaglen, gan eu helpu a’u galluogi mewn ffyrdd newydd i ryngweithredu â’u plentyn a chynyddu eu hyder wrth iddynt arfer eu gwybodaeth newydd gartref. Gellir cynnal y gefnogaeth hon mewn sesiynau dilynol yn ôl y galw. Mae plant yn ymateb yn llawen i gael sylw llwyr eu rhiant neu’u gofalwr am gyfnod sylweddol, a gall rhieni a gofalwyr adnewyddu dedwyddwch eu perthynas â’u plentyn.
Hanes Therapi Mabol:
Datblygwyd therapi mabol yn y 1960au gan y therapyddion plant a theuluoedd Bernard a Louise Guerney. Eu rhagosodiad gwreiddiol oedd y gellid iacháu anawsterau ymlyniadol teuluol trwy gynnwys rhieni a gofalwyr yn y broses therapi chwarae. Adeiladwyd ar hyn gan amryw therapyddion plant eraill yn UDA a’r DU, megis Garry Landreth, Sue Bratton a Rise VanFleet. Mae pwyslais gwreiddiol a pharhaol therapi mabol initial ar ddwy brif elfen: chwarae megid dull mynegi a chymhathu naturiol y plentyn, a rhieni a gofalwyr megis y partneriaid iachaol.
Ymchwiliwyd yn helaeth i therapi mabol yn ystod y 40-50 mlynedd diwethaf (Draper et al, 2009; Topham, 2011; Rye, 2008 a Bratton a Landreth, 1995, er enghraifft.) Dangoswyd ei fod o gymorth ag amrywiaeth eang o wahanol fathau o deuluoedd. Mae ymchwil wedi awgrymu, hefyd, bod gwelliant gweithrediad teulu a phlentyn yn tueddu i barhau, yn hytrach na dirywio wedi i ran y therapydd ddod i ben.
“(We) found that our relationship and understanding of each grand-daughter improved; as did their behaviour towards us… there was, and remains, a positive development of love between us.”
“To be able to have support and understanding from such a wonderful place has been amazing. It has given me the skills to really help my children and to continue that after our sessions finished”
“Y tegan gorau ar gyfer plentyn ifanc yw rhiant ymroddedig, gofalgar – rhywun i roi sylw, i ymwneud a chwarae â’r plentyn gan ddefnyddio geiriau, canu, cyffwrdd a gwenu.”
– Bruce Perry.
Y Rhaglen Meithrin Teuluoedd
Mae’r Rhaglen Meithrin Teuluoedd yn arddull ymyrryd buan a seilir ar ddau gysyniad gwaelodol: y rhan allweddol sydd i ymlyniad diogel trwy gydol oes er mwyn sicrhau datblygiad llwyddiannus; a gwerth chwarae fel sail iachau a chynnydd plentyn. Ar sail syniadau creiddiol therapi mabol, mae wedi’i gynllunio’n neilltuol ar gyfer rhieni a gofalwyr sydd eisiau cryfhau eu perthynas â’u babanod neu blant ifanc. Fe’i cyflawnir gan therapyddion chwarae ardystiedig BAPT sydd wedi’u hyfforddi’n benodol mewn therapi mabol ac iechyd meddwl plant bychain.
Mae arddulliau fel therapi mabol sy’n rhoi rhan weithredol i ofalwyr ac yn defnyddio medrau wedi’u seilio ar ffurfio ymlyniad cynnar megis ymgyfarwyddo ac empathi er mwyn trwsio perthnasau teuluol wedi’u hymchwilio a’u cefnogi’n eang mewn llenyddiaeth dros yr 50 mlynedd diwethaf. Dangoswyd fod y fath fodelau o gymorth i amrywiaeth eang o deuluoedd o wahanol fathau. Mae ymchwil wedi awgrymu, hefyd, bod y cynnydd a gafwyd mewn rhaglenni trwy gyfrwng gofalwyr yn tueddu i barhau, yn hytrach na dirywio wedi i gefnogaeth ddod i ben.
Mae’r Rhaglen Meithrin Teuluoedd yn atgyweiriol ac yn ataliol, gyda chanolbwyntio ar y berthynas rhwng y gofalwr a’r plentyn. Un o’r prif elfennau yw defnyddio ymddygiadau rhyngweithredol a welir ym mlynyddoedd cynnar datblygu rhwng rhiant a phlentyn bach. Dylai’r ymddygiadau hyn ddod yn naturiol, gan osod sylfaen ymlyniad diogel a datblygiad iach y plentyn; ond gall amrywiaeth eang o heriau danseilio perthynas y rhiant a’r plentyn, a chreu angen am gymorth a chyfarwyddyd ychwanegol. Yn y rhaglen blynyddoedd cynnar mae rhieni a gofalwyr yn edrych nid yn unig at anghenion eu plant ifanc trwy waith myfyriol, ond ar eu hanes a’u profiad hwy’u hunain hefyd, er mwyn ystyried beth allai fod yn tanseilio eu gallu i ymwneud a gofalu. Mae’r technegau meddyliol hyn, ynghyd â gwybodaeth am ymlynu a datblygiad plant bach, o gymorth, hefyd, i gynorthwyo sefydlu perthynas famol wrth baratoi ar gyfer bod yn rhiant yn y rhaglen amenedigol.
Mae’r Rhaglen Meithrin Teuluoedd yn helpu teuluoedd ag amryw anghenion a gall fod yn effeithiol neilltuol wrth gryfhau perthnasau teuluol lle penderfynwyd fod plentyn yn dioddef gan awtistiaeth, anabledd neu salwch parhaus. Mae ei hethos anfeirniadol yn adlewyrchu’r elfennau creiddiol o dderbyn diamod a pharch cadarnhaol wrth galon therapi chwarae. Mae rhieni’n bartneriaid cydweithiol yn y broses, a gwerthfawrogir a pherchir gallu naturiol teuluoedd i gydweithio a’u hagwedd unigolyddol a diwylliannol at fod yn rhieni.
Rydym yn fodlon trafod y rhaglen yn llawnach ac ymchwilio i sut allai ddiwallu eich anghenion.
Thank you for the opportunity to be a part of the program. It helped me hugely to gain back my confidence of being a mother to my children but also helped me understand so many aspects of myself and be a lot kinder to my inner child.
Ariennir y Rhaglen Meithrin Teuluoedd gan y Loteri Genedlaethol o 2022 i 2025.
Y Rhaglen Llaw yn Llaw
Mae’r Rhaglen Llaw yn Llaw yn ffordd berthynol o wynebu rhai o heriau bod yn rhiant i blant phobl ifanc ar y sbectrwm awtistig. Seilir y rhaglen ar ddaliadau therapi mabol gan ganolbwyntio ar ymlyniaeth a sefydlu perthynas, ond gan ddwyn mewn cof y ffactorau synhwyraidd a niwrolegol a gysylltir ag awtistiaeth.
Mae Llaw yn Llaw yn cynnig i deuluoedd sydd wedi derbyn barnau meddygol bod gan eu plant gyflyrau sbectrwm awtistiaeth y cyfle i ddatblygu medrau chwarae iachaol i’w defnyddio wrth ryngweithredu. Mae’r arddull hwn yn annog safbwynt anghyfarwyddol ac amodol ar ran yr oedolyn wrth ymwneud â’u plant. Pan fo gofalwyr wedi datblygu eu galluoedd a’u hyder, mae’r therapydd yn eu helpu wrth sefydlu ac yna eu gwylio mewn sesiynau chwarae iachaol arbennig gartref rhwng y gofalwr a’r plentyn, gan roi adborth ar ddatblygiad eu galluoedd a darparu cefnogaeth â strategaeth ar gyfer bod yn rhiant effeithiol.
Mae ymchwil eang wedi amlygu bod arddull wedi’i arwain gan y plentyn a’i gymhwyso iddo yn sail ar gyfer gwell ymddygiad cymdeithasol a chanlyniadau datblygiadol ar gyfer plant awtistig (Siller and Sigman, 2002, er enghraifft). Mae cyfraniadau ychwanegol trwy seico-addysg ynghylch agweddau ar awtistiaeth, ynghyd a chymorth parhaol i rieni, yn cynnig trefn gymorth gadarn ar gyfer teuluoedd ar yr hyn all fod yn adeg ddyrys a heriol iawn yn dilyn barn feddygol.