top of page

Sharon-Louise Pullen

Seicotherapi celf

Bu Sharon yn seicotherapydd celf cymwys, wedi’i chofrestru gan y wladwriaeth er 2001. Mae’n aelod o Gymdeithas Brydeinig y Therapyddion Celf (BAAT) ac wedi’i chofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Mae wedi cwblhau cwrs arsylwi ar blant bychain seicdreiddiol dwy flynedd â chlinig Tavistock yn Llundain, ac â Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) Swydd Hertford, sydd wedi ehangu ei gwybodaeth am ymlyniad cynnar plentyn a’i ddatblygiad emosiynol a dirnadol.


Mae wedi gweithio mewn llawer i amgylchedd heriol, gan gynnwys elusennau’n delio ag anafiadau i’r ymennydd a gofal lliniarol, ac yng ngwasanaethau iechyd meddwl oedolion a fforensig gwragedd y GIG.

Bu ei phrofiadau â phlant a phobl ifanc mewn sefydliadau addysgiadol ac unedau arbenigol a phreswyl sy’n delio ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, gan gynnwys awtistiaeth ac anawsterau bwyta.

Mae Sharon yn artist, gan dynnu lluniau, ffilmio a darlunio â phaent, ac wedi arddangos a gwneud gwaith comisiwn.

Mae wedi parhau i helpu pobl ifanc yn y gymuned, gan fod yn llywodraethwraig am bum mlynedd mewn ysgol gynradd leol a chefnogi sefydliadau ieuenctid fel y Sgowtiaid.

Sharon-Louise Pullen
bottom of page