top of page

Holly Joyce

Therapydd Chwarae, Therapydd Mabol ac Ymarferydd Theraplay® Graddfa Un

Mae gwaith Holly â phlant a phobl ifanc yn ymestyn dros 15 mlynedd. Mae ei hamryw swyddi’n cynnwys bod yn nyrs meithrinfa, yn fentor Tîm Troseddu Ieuenctid Caerdydd, yn weithwraig gynorthwyol i blant ag awtistiaeth ac anghenion ymddygiadol, yn oruchwylwraig cyswllt teuluol ac yn athrawes drama.


Gwelodd cefndir Holly yn nrama ac addysg ddatblygu ohoni fframwaith penodol yn dysgu agweddau cymdeithasol ac emosiynol dysgu (y rhaglen SEAL) trwy gyfrwng Drama ledled ysgolion cynradd yn y de. Trwy ei gwaith a hwyluswyd mewn ysgolion, ysbrydolwyd Holly gan sut y mae plant yn ymddangos fel pe’n canfod y fath gatharsis trwy chwarae rhan, felly penderfynodd ymhyfforddi’n therapydd chwarae, wedi’i hardystio gan Gymdeithas Brydeinig y Therapyddion Chwarae (BAPT).

Yn ogystal â bod yn therapydd chwarae cymwys, mae Holly wedi’i chymhwyso’n therapydd mabol hefyd, yn ymarferydd therachwarae graddfa un, ac yn hwylusydd gwaith hanes bywyd iachaol hyfforddedig.

Mae hi’n parhau â’i gwaith iachaol â phlant a theuluoedd mewn lleoliadau addysgol lle mae’n darparu golwg ddyfnach ar drawma ac ymlynu er mwyn rhoi i weithwyr fedrau deall a rheoli anghenion cymhleth disgyblion. Mae hi’n mwynhau gweithio â phlant a theuluoedd mewn lleoliadau clinigol, hefyd.

Ar gyn o bryd mae Holly’n dechrau ar ei hyfforddiant dod yn Oruchwylwraig Glinigol, ac fel Rheolwraig Lleoli mae’n ofalus i hyrwyddo ymarfer myfyrwyr.

Holly Joyce
bottom of page