top of page

Gabrielle Eisele

Goruchwylwraig a Therapydd Chwarae a Mabol BAPT

Gabrielle yw cyd-sylfaenydd y Windfall Centre ac mae wedi llywio ei ddatblygiad trwy ei symudiad terfynol at ddod yn elusen ac yn wasanaeth fel y mae yn awr. Y mae’n therapydd chwarae a mabol cymwys wedi’i hardystio gan Gymdeithas Brydeinig y Therapyddion Chwarae (BAPT).


Yn ogystal â’i gradd Meistr mewn therapi chwarae, mae ei chymwysterau academaidd yn cynnwys MSc mewn Seicoleg a gradd Meistr â chlod mewn Chwarae Datblygiadol ac Iachaol. Mae Gabrielle yn gweithio’n uniongyrchol â phlant trwy therapi chwarae ac â rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol trwy ein rhaglenni therapi mabol, Meithrin Teuluoedd a Llaw yn Llaw.

Daw Gabrielle â phwyslais iachaol ar bwysigrwydd perthnasau ymlyniad diogel ar gyfer iechyd emosiynol, ynghyd ag amgyffrediad o effaith trawma ar ymenyddiau datblygol plant. Bu iddi ddechrau a chyd-ddatblygu ein rhaglen meithrin teuluoedd yn benodol er mwyn hyrwyddo’r berthynas ymlyniad cynnar rhwng rhieni a gofalwyr a’u plant bychain ac ifanc. Mae Gabrielle yn Oruchwylwraig Glinigol ar gyfer arfer therapi chwarae, gan weithio y tu mas i’r Windfall Centre, ac yn goruchwylio darpar-therapyddion chwarae sy’n dod atom ar leoliadau

.

Mae’n hyfforddwraig boblogaidd, wedi hyfforddi’n eang ledled Cymru ar gyfer llawer i sefydliad ac asiantaeth, ac wedi traddodi cyflwyniadau o bwys mewn cynadleddau. Yn rhan o’n cysylltiad gwerthfawr â Phrifysgol De Cymru mae Gabrielle yn darlithio ar y cwrs gradd Meistr Therapi Chwarae.

Mae Gabrielle wedi ymddangos yn dyst arbenigol yn y llys teulu, gan gloriannu perthnasau ymlyniad plant ifanc iawn ac anabl â’u gofalwyr. Gan dynnu ar ei rhagor na 30 mlynedd o weithio â phlant a phobl ifanc yn y DU ac America, mae ganddi arbenigedd neilltuol a sensitifrwydd at anghenion plant anabl, rhai ar y sbectrwm awtistaidd a rhai sydd wedi profi trawma a diffyg ffurfio ymlyniad.

Gabrielle Eisele
bottom of page