top of page

Bethan James

Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Mae gan Bethan dros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym maes Addysg a Gofal Cymdeithasol Plant yng Ngorllewin Cymru. Ar hyn o bryd yn ymgynghorydd llawrydd, mae Bethan wedi bod yn Bennaeth ar ysgol arbennig ac arweinydd strategol awdurdod lleol ar gyfer diogelu ysgolion, rhianta corfforaethol, timau o amgylch teuluoedd yn ogystal â datblygu polisi a chomisiynu ar gyfer gwasanaethau plant integredig. Mae Bethan wedi cyfrannu at gyflwyno dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer diwygio addysg statudol yng Nghymru yn ogystal â pholisi rhianta corfforaethol, ymwybyddiaeth ofalgar mewn addysg, ymwybyddiaeth o ACE ac Arferion sy’n Ystyriol o Drawma mewn Addysg. Fel Rheolwr Gwasanaeth Rhianta Corfforaethol mae Bethan wedi dyfeisio a darparu ystod o hyfforddiant datblygu’r gweithlu ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gofalwyr maeth a gweithwyr cymorth cymunedol gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o effaith adfyd ar ddatblygiad iach plant a hyrwyddo strategaethau i wella lles. Mae ganddi Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes yn ogystal â nifer o gymwysterau ôl-raddedig mewn Datblygiad Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Sector Cyhoeddus.

Bethan James
bottom of page