Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn £69,925 dros dair blynedd gan y #loterigenedlaethol ar gyfer y Rhaglen Meithrin Teuluoedd.
Mae'r Rhaglen Meithrin Teuluoedd yn ddull ymyrraeth cynnar sy'n atgyweiriol ac yn ataliol, gyda'r ffocws ar y berthynas rhwng y sawl sy'n rhoi gofal a'r plentyn. Mae'r rhaglen yn seiliedig ar dri chysyniad sylfaenol:
·Y rôl hanfodol mae ymlyniad diogel yn parhau i’w chwarae trwy gydol oes i sicrhau datblygiad llwyddiannus.
·Effeithiolrwydd rhiant/gofalwr i ddarparu cymorth ac ymyrraeth therapiwtig gan ganolbwyntio ar anghenion y plentyn.
·Rôl anhepgor chwarae fel y sail ar gyfer iachâd a chynnydd plant.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio'n arbennig ar gyfer rhieni a gofalwyr o'r cyfnod amenedigol ymlaen sy'n dymuno cryfhau eu perthynas ymlyniad â'u babanod neu blant ifanc ac a allai fod yn cael anawsterau wrth sefydlu'r bondiau sylfaenol sy'n sail i fywyd teuluol a datblygiad plant. Fe'i cyflwynir gan Therapyddion Chwarae sydd wedi'u hachredu gan BAPT ac a hyfforddwyd yn benodol mewn Therapi Mabol, Therapi Meddwl ac Iechyd Meddwl Babanod.
Comments